|
Gyda’r Nadolig wedi dod ac wedi mynd, ‘roeddwn yn teimlo ei bod yn amser i mi ‘sgrifennu atoch chi i gyd unwaith eto a dweud wrthych ynglyn â’r hyn ‘rwyf wedi bod yn ei wneud gydol Rhagfyr a hyd yma eleni.
5ed - Mynychais gyfarfod o Brosiect Datganoli Cynhaliaeth i Fyfyrwyr yn y Cynulliad yng Nghaerdydd. Yn y bon, sefydlwyd y prosiect hwn i weithredu’r newidiadau a ddaw i rym yng Nghymru o ran Gwasanaethau Cynhaliaeth i Fyfyrwyr. Bwriedir agor canolfan-alwadau newydd yng Ngogledd Cymru a chaiff y mwyafrif o Fyfyrwyr Cymru eu cyfeirio yno am wasanaeth mwy personol. Mae hyn hefyd yn newyddion gwych i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith - bydd gan y ganolfan staff sy’n medru’r iaith, a byddant yn gallu trafod ymholiadau a cheisiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
6ed a’r 7fed - Bu Sarah, Bethan a fi ar daith mewn car o amgylch colegau AB Cymru. Diben y daith oedd ein hymgyrch Cerdyn Nadolig AB - ynghyd â’r slogan “I gyd ‘rwyf eisiau y Nadolig hwn yw…”. Y gobaith oedd cael myfyrwyr yn y colegau i ‘sgrifennu’r hyn ‘roeddynt eisiau ei weld o ran gwelliannau yn y sector AB, yn y cerdyn. Mae’n dda gen i ddweud fod y cerdyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Wedyn cyflwynodd Sarah a Bethan y cerdyn i’r Gweinidog dros Addysg yng Nghymru. ‘Roedd yn syndod i mi weld faint o gefnogaeth a chymorth mae’r myfyrwyr yn eu hunedau ei angen. Wrth i ni gerdded o amgylch y colegau, gwelsom lwyth o bosteri ymgyrchoedd UCM, ond dim gweithgarwch undeb - ‘rydym ni yn UCMC yn bwriadu treulio cryn lawer o amser mewn colegau AB yn ystod y misoedd nesaf. Byddwn yn gwneud mwy na dim ond dangos ein wynebau a chael tipyn o sbri - bydd o gymorth gwirioneddol i fyfyrwyr mewn colegau AB. Edrychaf ymlaen i’r her o adeiladu cysylltiadau cryfach gyda cholegau.
9fed - Aethom ni yn UCMC i gynhadledd a drefnwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar Gyllido Myfyrwyr yng Nghymru. Yn y bon, ‘roedd yn gyfle i’r Cynulliad i ddangos i Awdurdodau Addysg Lleol, Cynrychiolwyr Myfyrwyr a phobl sy’n gweithio gyda myfyrwyr pa mor ‘wych’ yw eu system newydd (nodwch y
sarcastiaeth yn fy llais; nid yw yn wahanol). Gyda’i enw newydd sbon Cyllido Myfyrwyr Cymru, bydd yn gorff cynhwysfawr a fydd yn sicrhau dyfodol ariannol myfyrywr Cymru!!!!!
12fed - Cyfarfod o BGC Cymru yng Nghaerdydd. ‘Roeddem wedi bwriadu cynnal cyfarfod o BGCC yn Aberystwyth ym mis Tachwedd, ond bu rhaid i ni ei ohirio oherwydd y refferendwm a drefnwyd yr un wythnos. Aeth y cyfarfod yn dda; etholwyd dau swyddog newydd i BGCC a phasiwyd polisi da. Llongyfarchiadau i Jamie McIndo a Rahat Ahmed. Dim ond un aelod sy’n brin o BGCC cyfan. Gwych.
13eg - 15fed ‘Roeddwn yn Llundain ar gyfer Cynhadledd Myfyrwyr Ewropeaidd. ‘Roedd digwyddiadau ESIB yn arbennig o dda a chefais gyfle gwych i siarad â chydlynydd ESIB ynglyn â Chymru’n ymuno ag ESIB ar wahan i UCM DU. Byddai hyn yn rhoi mwy o lais i ni yn Ewrop gan roi mwy o amlygrwydd i ni ar lefel ryngwladol.
14eg - 15fed Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, Llundain. Rhoddais gyflwyniad byr i’r PGC ar Ddwyieithrwydd a sut mae’n effeithio arnynt hwy a’r gwaith maent yn ei wneud o fewn i UCM DU ac yn arbennig yng Nghymru.
Mae gen i gryn lawer o waith ar y gweill - yn arbennig y Daith o Amgylch Cymru sy’n dechrau ddydd Llun nesaf sef y 9fed, cyfarfodydd y PGC yn Llundain, cyfarfod o’r Gweithgor Addysg yn Llundain, cyfarfod ymgynghorol ELWa ym Machynlleth, Lansio ymgyrch Dathlwch yng Nghaerdydd a llwyth o gyfarfodydd - mae’n mynd i fod yn fis eithriadol o brysur.
Fel arfer, mae croeso i chi gysylltu â fi ar unrhyw adeg ynglyn ag unrhyw beth sydd ar eich meddwl. Fy rhif ffôn symudol yw 07921 529733 a fy nghyfeiriad e-bost yw dylan.williams@nus-wales.org.uk
Neges i holl swyddogion Cymru - ‘rwyf hefyd ar gael ar gyfer unrhyw barti neu ddigwyddiad y byddwch yn ei gynnal. Mae teithio hyd a lled Cymru yn fy nghar yn rhan o’m swydd.
The Blogs on this site represent the individual views of their authors and do not necessarily reflect the policies or practices of the National Union of Students.
All links in blogs will open in a new browser window.
The permanent URL for this specific blog entry is: http://www.officeronline.co.uk/blogs/dylanwilliams/271877.aspx
|