|
Helo, Croeso i’r Blog cyntaf!!
Beth ‘rwyf wedi bod yn ei wneud yn ystod y pythefnos diwethaf -
- Cyngor Cenedlaethol, Coventry, 14eg Tachwedd
- Refferendwm Aberystwyth
- Cynadleddau Rhyddhau, Aberystwyth 22ain Tachwedd
- Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn Erbyn Menywod, 25ain Tachwedd
- Cynhadledd LHDT, Coventry, 26-28 Tachwedd
- Cyfarfod Dirprwyaeth y PGC, 1af Rhagfyr
- Setlo i mewn i bencadlys UCMC yng Nghaerdydd
- Trefnu cyfarfodydd croeso
- Gweithio ar Hyfforddiant Pwyllgor Gwaith UCMC
- Llwyth o waith gyda’r wasg
Yn dilyn ychydig o wythnosau eithriadol o brysur o ymgyrchu, teithio, dadlau a gobeithio, dyma fi’n cael yr amser o’r diwedd i eistedd i lawr a ‘sgrifennu’r blog cyntaf. ‘Rwyf yn sicr fod amryw ohonoch yn gyfarwydd â’r gorfoledd o ennill, ac yna’r panic a’r ofn wrth i realaeth eich bwrw. Diolch byth, nid wyf wedi cael amser i ofidio ynglyn â fy ngallu i fod yn dda; ‘dwi wedi bod yn brysur yn gwneud y gwaith!
Mae’r ychydig fisoedd nesaf yn allweddol i Gymru. Rhaid i UCMC adennill parch ar lefel leol a chenedlaethol. ‘Rydym yn fudiad gwych, mae gennym adnoddau gwych ac ‘rydym yn rhan o undeb myfyrwyr mwyaf y byd. Fel y dywedodd rhywun enwog rywdro, peidiwch ag ystyried beth allwch chi wneud i ni, ond yn hytrach beth allwn ni wneud i chi - gofynnwch i ni, a byddwn yn ei wneud. Byddwn yn fudiad lobïo ar eich rhan, ac yn cynrychioli eich hanghenion, eich barn, eich gobeithion a’ch dymuniadau. Rhowch gyfle i ni weithio ar eich rhan a gallaf eich sicrhau y byddwch yn gweld gwelliannau.
Felly dyma fwy o fanylion o’r hyn ‘rwyf wedi bod yn ei wneud -
Cyngor Cenedlaethol
‘Roedd fy Nghyngor Cenedlaethol cyntaf yn gryn brofiad. Beth bynnag ‘rydych wedi ei glywed, mae i gyd yn wir, mae’n hir, yn ddryslyd ac yn waith caled. Serch hynny, mae’n bwysig iawn, dyma’r corff monitro ‘rydym ni fel aelodau o’r PGC yn atebol iddo, felly rhaid i ni fod yn ddymunol wrthynt. Ar yr ochr fanteisiol, cafwyd cyfle am drafodaeth ar gynigion pwysig a phasiwyd y rheolau sefydlog ar gyfer y Cyngor newydd.
Refferendwm Aberystwyth
Yn ystod fy ail wythnos fel Llywydd, bu’n rhaid wynebu Refferendwm. Felly bu’n rhaid gweithredu fel mudiad milwrol; paciwyd ein bagiau a symudwyd i Aberystwyth am ychydig o ddyddiau. ‘Roedd yn waith caled ond boddhaol, a hoffwn ddweud diolch i’r swyddogion sabathol ac Urdd y Myfyrwyr am wneud ein gwaith yn haws a chynnig eu cymorth gydol ein hamser yno. Mae’n dda gen i ddweud fod myfyrwyr Aberystwyth wedi pleidleisio, gyda mwyafrif llethol o 89%, o blaid parhau i fod yn rhan o UCM.
Cynadleddau Rhyddhau UCMC, Aberystwyth
Fel pe bai refferendwm ddim yn ddigon i ni yng Nghymru i’w drefnu, bu’n rhaid hefyd trefnu tair cynhadledd i ethol aelodau newydd o BGCC a phasio polisi rhyddhâd. Bu’r diwrnod yn llwyddiant ysgubol ac etholwyd dau swyddog newydd i BGCC a chynigiwyd enw ar gyfer cyf-etholiad. Llongyfarchiadau i Stiwart ac Ele, ac edrychaf ymlaen i weithio gyda chi yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Diolch hefyd i’r cynrychiolwyr am wneud y digwyddiad yn llwyddiant.
Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn Erbyn Menywod, 25ain Tachwedd
Diolch i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe am fy ngwahodd i’w lansiad balwns ar lawnt Ty Fulton. ‘Roedd yn llwyddiant mawr, gyda’r Undeb yn codi llwyth o arian ar gyfer elusennau lleol. Go dda chi am drefnu’r digwyddiad.
Cynhadledd LHDT, Coventry, 26-28 Tachwedd
Mynychais fy mhedwaredd Cynhadledd LHDT a chymerais ran yn y drafodaeth arferol sy’n nodweddiadol o Gynhadledd y Gaeaf. Pasiwyd cynigion ac yng Nghawcws Cymru, cafwyd trafodaeth wych ynglyn â’r materion sy’n berthnasol i Gymru a ble y dylai’r ymgyrch fynd nawr. Mae dwyieithrwydd ar y gweill, felly gwyliwch allan DU.
Cyfarfod Dirprwyaeth y PGC
Dyma fy nghyfarfod cyntaf fel aelod llawn o’r PGC. Gan fy mod wedi bod yn sylwedydd Cymru ar y PGC ers Mehefin, ‘rwyf yn gyfarwydd â sut mae’r PGC yn gweithio, a pha mor hir mae’r cyfarfodydd yn gallu bod. ‘Doedd hwn ddim yn eithriad. Serch hynny, llwyddwyd pasio cynigion y PGC ar gyfer y Gynhadledd Flynyddol. Mae gennym ddau gyfarfod cynigion eto i’w cynnal ar 14eg a’r 15fed, felly byddaf yn eich darparu â’r wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â beth sy’n digwydd yn y rhain.
Dyma beth fydda i’n wneud yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf -
Ymweliadau â Cholegau AB yng Nghymru - Ymgyrch Gardiau-Post
Cynhadledd a Hyfforddiant Cyllid Myfyrwyr, Prifysgol Morgannwg
Cyfarfodydd PGC yn Llundain x 2
Cyfarfod PGCC, 12fed Rhagfyr
Ymweliadau ag Undebau
A message from the President of Wales.
Hello, Welcome to my first Blog!!
What I’ve been doing for the last 2 weeks –
- National Council, Coventry 14th November.
- Aberystwyth Referendum
- NUS Wales Liberation Conferences, Aberystwyth 22 November
- International Day to Eliminate Violence Against Women 25th November
- LGBT Conference, Coventry 26-28 November
- NEC Delegation Meeting 1 December
- Settling in to NUS Wales HQ in Cardiff.
- Arranging welcome meetings.
- Working on WNEC Executive Training
- A whole host of press work.
After a whirl wind few weeks of campaigning, resigning, travelling, arguing and hoping I finally find the time to sit down and write my first ever blog. I’m sure many of you know the jubilation of winning and then the panic as the dread washes over you. Thankfully I haven’t had time to worry about my ability to be good, I’ve been to busy doing it!
These next few months are crucial for Wales. NUS Wales must regain its respect on a local and National level. We are a fantastic organisation, we have fantastic resources and we are a part of the world’s biggest student union. As someone famous once said it’s not what you can do for us but what we can do for you – ask us and we will do it. We will be your lobbying organisation and we will represent your needs, views, hopes and wishes. Give us the chance to work for you and I guarantee you will see benefits.
So a little more detail about what exactly I’ve been doing –
National Council
My first National Council was an experience. What ever you’ve heard it’s all true, it’s long, confusing and hard work. It is however very important, it is the monitoring body that we as NEC members are accountable to so we have to be nice to it. On the plus side we did get to debate some important motions and new Council standing orders were passed.
Aberystwyth Referendum
My second week as President and a Referendum falls on my doorstep. So we as an organisation went in to military mode, packed our bags and moved to Aberystwyth for a few days. It was a hard but enjoyable week and I’d like to say a big thank you to the Sabb team at the Guild for making our job an easy one and offering their guidance and assistance throughout our time there. I’m happy to say that Aberystwyth Students said a massive Yes to NUS with 89% re-affirming their wish to stay in.
NUS Wales Liberation Conferences, Aberystwyth
If a referendum wasn’t enough for us in Wales to organise we also had three conferences to elect new WNEC members and pass liberation policy. The day was a massive success with the election of two new WNEC officers and a name proposed for co-option. Congratulations to Stiwart and Ele and I look forward to working with you over the coming year. Thanks also to all the delegates for making the event so successful.
International day to Eliminate Violence against Women
Thanks to Swansea University Students Union for inviting me down to their balloon release on Fulton House Lawn. A massive success with the Union raising a lot of money for local charities. Well done to all who made the event happen.
LGBT Conference.
I went to my fourth LGBT Conference and took part in the usual debate that is Winter Conference. Motions were passed and at the Welsh Caucus we had a brilliant debate about the issues in Wales and where the campaign should head now. Bilingualism is on the cards, UK beware.
NEC Delegation Meeting
My first official meeting as a full NEC member. Having been the Wales Observer since June I am well accustomed to how the NEC works and how long the meetings can be. This one was no exception. We did however pass the NEC motions for Annual Conference. We have two further motions meeting on the 14th and 15th so I’ll keep you all up to date with what happens in those.
Here’s what I’m doing in the next few weeks –
NUS Wales FE College Visits – Postcard Campaign.
Student Finance Conference and Training, Glamorgan University
NEC Meetings in London x 2
WNEC Meeting, 12TH December
Union Visits
The Blogs on this site represent the individual views of their authors and do not necessarily reflect the policies or practices of the National Union of Students.
All links in blogs will open in a new browser window.
The permanent URL for this specific blog entry is: http://www.officeronline.co.uk/blogs/dylanwilliams/271758.aspx
|